Mae gennym hefyd deunydd ar gyfer arddangosfeydd lleol displays (yn eich tafarn neu neudd/amgueddfa/llyfrgell/ysgol) a thaflenni i'w dosbarthu o gwmpas y sir. Mynnwch cyflenwad.
Beth yw'r Fforwm Hanes Lleol Ceredigion?
Pwyllgor y Fforwm
Cadeirydd: Jane Kerr
Is-gadeirydd: Michael Freeman
Ysgrifennydd: Nigel Callaghan
Trysorydd: Helen Palmer
Aelodau'r Fforwm
Mae'r mudiadau isod yn aelodau'r Fforwm ar hyn o bryd. Gweler y dudalen aelodau am fanylion cyswllt. • Archifdy Ceredigion • Amgueddfa Ceredigion • Canolfan Treftadaeth Cei Newydd • Treftadaeth Llandre • Ceredigion FHS • Hanes Ceredigion • Cymdeithas Hanes Cylch Tregaron • Cymdeithas Hanes Aberporth • Grŵp Hanes Lleol Cilcennin • Hanes Llambed • Hanes Emlyn • Ceredigion Assoc of N.T. Members • Cymdeithas Hanes Llansantffraed • Hanes Aberteifi • Cymdeithas Treftadaeth Llangynfelyn • Fforwm Hanes Cymru • Archaeolog Cambria • Archeolegwyr Ifainc Ceredigion • Hanes Llangeler • Treftadaeth Llandre • Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed (Aberteifi) • Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a'r Fro • Y Ferwig a'r ardal • Cymdeithas Aberaeron • Cymdeithas Hanes Maes a Môr (Ffostrasol) • Cymdeithas Hanes Blaenpennal (Ffostrasol)
Prif bwrpas y Fforwm yw gweithio fel grŵp ymbarêl, sy'n cyfuno'r cymdeithasau a mudiadau gyda diddordeb yn hanes lleol, hanes teuluol a threftadaeth o fewn Ceredigion, gyda'r amcan o godi proffil hanes lleol o fewn y sir.
Mae'r fforwm yn darparu modd i'r mudiadau sy'n aelodau hysbysebu eu digwyddiadau wrth ei gilydd, trwy'r wefan a dulliau eraill. Gweler y Digwyddiadur - fel arfer mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.
Mae'r Fforwm hefyd yn trefnu cyfarfodydd agored, dwywaith y flwyddyn fel arfer, gyda siaradwyr gwadd sy'n siarad am amrywiaeth o bynciau diddorol. Mae'r cyfarfodydd yn cynnig cyfle i aelodau o grwpiau gwahanol gwrdd â'i gilydd a siarad wyneb yn wyneb a chyfnewid syniadau a phrofiadau.
Pe hoffai'ch mudiad ymuno â'r Fforwm, cwblhewch y ffurflen ymgais hon (PDF) a'i hanfon, gyda'r tanysgrifiad (£10 ar hyn o bryd) at yr Ysgrifennydd.
Os ydych chi am dderbyn newyddion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cewch danysgrifio at ein rhestr e-bost (=====>) neu ein dilyn ni ar Trydar (@ceredigionlhf)
Cyfarfod nesaf
Oherwydd y Pla mae'r Fforwm wedi bod yn gaeafgysgu dros y blynyddoedd diwethaf, ond nawr RYDYM YN ÔL!
Bydd ein cyfarfod nesaf ar DDYDD SUL (d.s. nid dydd Sadwrn, fel o’r blaen) Mai 21ain, o 1.30-5.00 o’r gloch yn Neuadd Llwyncelyn. Y thema yw 'Adnewyddu yn y Gwanwyn' a bydd y cyfarfod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau byr ar sut i gael y gorau o'r holl adnoddau sydd ar gael ar gyfer hanes lleol a theuluol yng Ngheredigion.
12.30-1.30 Cofrestru a choffi. Mae croeso i chi ddod â'ch brechdanau a'u bwyta yn y Neuadd cyn i ni ddechrau.
1.30 Beryl Evans, adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol
2.00 Helen Palmer ar Archifau
2.30 Nigel Callaghan ar Adnoddau Ar-Lein
3.00 Lluniaeth
3.30 Jane Kerr ar Brosiectau/Ymchwil i Gymdeithasau
4.00 Helen Palmer ar yr hyn sydd gan BALH (British Assoc for Local History) i’w gynnig i gymdeithasau ac unigolion
4.15 Michael Freeman ‘cyfrif y ceiniogau – yr hyn y mae llyfrau cyfrifon yn ei ildio’
4.45 Diweddglo a chynlluniau ar gyfer y dyfodol
(Bydd pob sgwrs yn Saesneg)
Lleoliad Lleolir y Neuadd ar y A487 rhwng Llanarth ac Aberaeron bron yn gyferbyn á'r Siop / Gorsaf Petrol.
Mynediad £2.00, i gynnwys te, coffi a chacen. Croeso cynnes i bawb.
Cysylltu â'r Ysgrifennydd (
/ 01970 832573) i fwcio le, er mwyn i ni ddod â digon o gacen!