Mae gennym hefyd deunydd ar gyfer arddangosfeydd lleol displays (yn eich tafarn neu neudd/amgueddfa/llyfrgell/ysgol) a thaflenni i'w dosbarthu o gwmpas y sir. Mynnwch cyflenwad.
Beth yw'r Fforwm Hanes Lleol Ceredigion?
Pwyllgor y Fforwm
Cadeirydd: Jane Kerr
Is-gadeirydd: Michael Freeman
Ysgrifennydd: Nigel Callaghan
Trysorydd: Helen Palmer
Aelodau'r Fforwm
Mae nifer o fudiadau lleol yn aelodau'r Fforwm ar hyn o bryd. Gweler y dudalen aelodau am fanylion cyswllt.
Prif bwrpas y Fforwm yw gweithio fel grŵp ymbarêl, sy'n cyfuno'r cymdeithasau a mudiadau gyda diddordeb yn hanes lleol, hanes teuluol a threftadaeth o fewn Ceredigion, gyda'r amcan o godi proffil hanes lleol o fewn y sir.
Mae'r fforwm yn darparu modd i'r mudiadau sy'n aelodau hysbysebu eu digwyddiadau wrth ei gilydd, trwy'r wefan a dulliau eraill. Gweler y Digwyddiadur - fel arfer mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.
Mae'r Fforwm hefyd yn trefnu cyfarfodydd agored, dwywaith y flwyddyn fel arfer, gyda siaradwyr gwadd sy'n siarad am amrywiaeth o bynciau diddorol. Mae'r cyfarfodydd yn cynnig cyfle i aelodau o grwpiau gwahanol gwrdd â'i gilydd a siarad wyneb yn wyneb a chyfnewid syniadau a phrofiadau.
Pe hoffai'ch mudiad ymuno â'r Fforwm, cwblhewch y ffurflen ymgais hon (PDF) a'i hanfon, gyda'r tanysgrifiad (£10 ar hyn o bryd) at yr Ysgrifennydd.
Os ydych chi am dderbyn newyddion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cewch danysgrifio at ein rhestr e-bost (=====>) neu ein dilyn ni ar Trydar (@ceredigionlhf)
Cyfarfod nesaf
Nid ydym wedi trefnu manylion on ein cyfarfod nesaf eto.